Busnes Coleg Gwent - Similar companies

We find the nearest competitors to any company through our proprietary AI and database of millions of companies

Busnes Coleg Gwent

Education Management · Usk, Monmouthshire
Website: www.coleggwent.ac.uk

Pwy yw Coleg Gwent Busnes? Cangen fasnachol grŵp Coleg Gwent yw Busnes Coleg Gwent. Rydym yn cynnig atebion hyfforddi i fusne ... sau ar draws pob diwydiant, o Fusnesau Bach a Chanolig (SMEs) i gwmnïau rhyngwladol mawr. Mae busnes Coleg Gwent yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel mewn amryw o feysydd sy’n adlewyrchu gofynion y diwydiant ac yn helpu busnesau i dyfu: Hyfforddiant busnes, hyfforddiant wedi’i deilwra a Phrentisiaethau. Gallwn edrych am gyfleoedd cyllido ar gyfer eich busnes. Gweithio gyda grŵp Coleg Gwent Mae Grŵp Coleg Gwent yn cynnwys Coleg Gwent, ei is-gyrff, a Hyfforddiant Coleg Gwent Cyf. Mae Coleg Gwent yn un o’r colegau sy’n perfformio orau yng Nghymru. Fe’i lleolir mewn 6 chanolfan unigryw, gydag 1 yn rhoi profiad dysgu rhagorol. Fel grŵp, rydym yn gweithio mewn partneriaeth i gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau llawn amser, rhan amser, ar lefel Prifysgol, Prentisiaethau, hyfforddiant busnes a hyfforddiant wedi’i deilwra. Mae gennym leoliadau a chyfleusterau sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant ledled De Ddwyrain Cymru: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Gan gyd-weithio o fewn Consortiwm a gyda phartneriaethau allanol sefydledig, mae Coleg Gwent yn cynnig Prentisiaethau yn y sector Adeiladu, Cynllunio a’r Amgylchedd Adeiledig, Peirianneg a Thechnolegau Gweithgynhyrchu, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Lletygarwch ac Arlwyo. Rydym yn gweithio gydag unrhyw fusnes, yn unrhyw le. Rydym yn cydnabod taw eich cyflogeion, fel ein rhai ninnau, yw’ch ased fwyaf; maen nhw’n gyrru datblygiad busnes sy’n ei dro’n arwain at lwyddiant busnes. Rydym yn gweithio’n agos gyda busnesau i gynnig atebion hyfforddiant sy’n ychwanegu gwerth i’ch busnes a’ch cyflogeion. Gall ein cynghorwyr ymgysylltu busnes penodedig eich helpu i ddod o hyd i’ch atebion hyfforddiant. Mae ein hyfforddwyr busnes yn arbenigwyr yn y diwydiant a byddan nhw’n rhoi cymorth i’ch tîm/cyflogeion gydol eu datblygiad. read more

Competitor Description Similarity

Loading..